Cymdeithas Comisiynwyr Heddlu a Throsedd (CCHTh) ydy’r corff sy’n cynrychioli:
- Comisiynwyr Heddlu a Throsedd (CHTh)
- Comisiynwyr Tân a Throsedd (CTTh)
- Dirprwy Feiri yng Nghymru a Lloegr
Pob CHTh, CTTh, Dirprwy Feiri a Meiri sy’n gyfrifol am blismona a throsedd yn aelodau o CCHTh, yn ogystal ag Awdurdod Heddlu Dinas Llundain; Swyddfa Plismona a Throsedd Maer Awdurdod Llundain Fwyaf; Awdurdod Cyfunol Manceinion Fwyaf; Awdurdod Cyfunol Gorllewin Swydd Efrog; Awdurdod Cyfunol Efrog a Gogledd Swydd Efrog; Awdurdod Cyfunol De Swydd Efrog; Awdurdod Heddlu Jersey; Awdurdod yr Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig; Yr Awdurdod Heddlu Niwclear Sifil; Pwyllgor Heddlu y Weinyddiaeth Amddiffyn; ac Awdurdod Heddlu yr Alban.
Rydym yn cynorthwyo ein haelodau drwy:
- Cynrychioli eu barn i’r llywodraeth a sefydliadau’r heddlu ar faterion plismona a chyfiawnder troseddol allweddol
- Rhannu arferion gorau a chyflenwi gwybodaeth ac adnoddau i’w cynorthwyo nhw gyflawni eu dyletswyddau
- Rhoi trosolwg o gyrff plismona cenedlaethol, gan gynnwys y Coleg Plismona, yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol a chyrff tân ac achub
Ein gwaith
Rydym yn cwmpasu dros 20 o feysydd polisi neu bortffolios ar wahân. Mae’r rhestr lawn o bortffolios a’n harweinwyr CHTh ar gael ym maes Ein Gwaith ar y wefan.
Llywodraethu
Mae CCHTh yn gwmni cyfyngedig trwy warant. Mae’n cael ei oruchwylio a’i gyfarwyddo gan Gadeirydd a Bwrdd Cyfarwyddwyr etholedig.
Tîm CCHTh
Mae ein haelodau yn cael eu cynorthwyo gan dîm bach o weithwyr polisi, cyfathrebu a materion cyhoeddus proffesiynol, o dan arweiniad Prif Weithredwr ac uwch dîm.
Comisiynwyr Heddlu a Throsedd
Caiff Comisiynwyr Heddlu a Throsedd (CHTh) eu hethol gan y cyhoedd er mwyn cynrychioli eu blaenoriaethau plismona lleol a gwella diogelwch cymunedol. Maent yn gweithio mewn partneriaeth hefo amrywiaeth o asiantaethau ar lefelau lleol a chenedlaethol. Mae hyn er mwyn sicrhau ymdriniaeth unedig wrth atal a lleihau troseddau, a dal yr heddlu’n atebol i’r cymunedau y maent yn eu gwasanaethu.
Dirprwy Feiri Plismona a Throsedd
Yn Llundain Fwyaf, Manceinion Fwyaf, Gogledd Swydd Efrog, De Swydd Efrog a Gorllewin Swydd Efrog, mae llywodraethu’r heddlu o dan gylch gwaith meiri etholedig a all benodi Dirprwy Faer Plismona a Throsedd er mwyn arfer swyddogaethau ar eu rhan.
Bydd yr ardaloedd canlynol yn ethol meiri erbyn mis Mai 2026: Cumbria; Swydd Gaer a Warrington; Essex, Hampshire a Solent; Norfolk a Suffolk; a Sussex a Brighton.
Rôl CHTh
O dan delerau Deddf Diwygio’r Heddlu a Chyfrifoldeb Cymdeithasol 2011, rhaid i CHTh:
- sicrhau heddlu effeithlon ac effeithiol ar gyfer eu hardal
- penodi’r prif gwnstabl, eu dwyn yn atebol am redeg yr heddlu, ac os oes angen, eu diswyddo nhw
- gosod amcanion yr heddlu a throsedd ar gyfer eu hardal drwy gynllun heddlu a throsedd
- gosod cyllideb yr heddlu a phenderfynu ar y praesept plismona – y swm sy’n cael ei godi drwy’r dreth gyngor ar gyfer plismona
- cyfrannu at y galluoedd plismona cenedlaethol fel y’u diffinnir gan yr Ysgrifennydd Cartref
- dod â phartneriaid diogelwch cymunedol a chyfiawnder troseddol ynghyd er mwyn sicrhau bod blaenoriaethau atal trosedd lleol yn cael eu cydgysylltu
Rôl ymledol CHTh
Er mwyn cydnabod llwyddiant y rôl, mae cylch gwaith y CHTh wedi’i ddatblygu a’i gryfhau ymhellach. Mae grymoedd a swyddogaethau newydd a chynyddol yn cynnwys:
- Cwynion yr heddlu – mae CHTh wedi cymryd rôl gryfach yn system gwynion yr heddlu
- Llywodraethu gwasanaethau Tân ac Achub – dod yn Awdurdod Tân ac Achub eu hardal. Mae pum Comisiynydd Heddlu, Tân a Throsedd (CHTTh), yn Cumbria, Essex, Swydd Stafford, Gogledd Swydd Efrog a Swydd Northampton
- Cyfrifoldebau comisiynu estynedig – gan gynnwys gweithio hefo partneriaid lleol er mwyn comisiynu lleihau gwasanaethau aildroseddu, cynlluniau ailgyfeirio ieuenctid, gwasanaethau lleihau trais amlasiantaethol a gwasanaethau cyffuriau ac alcohol, yn ogystal ag ariannu Partneriaethau Diogelwch Cymunedol lleol
- Partneriaeth ac atal – cynnull, galluogi, hwyluso a goruchwylio gwaith partneriaeth
Mae mwy o wybodaeth am rymoedd CHTh ar gael ar wefan y Swyddfa Gartref.
Cod Ymddygiad CHTh
Mae disgwyl i CHTh lynu at ‘Egwyddorion Nolan’. Mae pob CHTh yn cyhoeddi eu Cod Ymddygiad eu hunain ac mae CCHTh wedi llunio fframwaith moesegol, a arweiniwyd ac a ddatblygwyd gan CHTh ac sy’n cynnwys cod templed i CHTh ei fabwysiadu os dymunant.
Swyddfeydd CHTh
Mae swyddfeydd CHTh (SCHTh) yn amrywio o ran maint, strwythur a chyfluniad, gan adlewyrchu blaenoriaethau CHTh unigol a etholir ar wahanol fandadau lleol.
Rôl SCHTh ydy cynorthwyo swyddogaethau statudol CHTh, gan ganolbwyntio’n bennaf ar gynorthwyo cyflawniad o ran y Cynllun Heddlu a Throsedd lleol. Maent yn gyfrifol am sicrhau bod strategaeth y CHTh yn cael ei gweithredu’n effeithiol a defnydd effeithiol o adnoddau’r CHTh. Cydymffurfir â’r ystod lawn o ddyletswyddau a chyfrifoldebau statudol, a gosod a chynnal safonau ymddygiad uchel yn unol ag egwyddorion Nolan.
Gall pob CHTh sefydlu eu swyddfa yn unol â gofynion lleol a rhanbarthol. Efallai y bydd gan CHTh sydd hefo swyddogaethau a chyfrifoldebau ychwanegol (er enghraifft, CHTTh neu Unedau Lleihau Trais) aelodau staff ychwanegol sy’n arbenigo yn y meysydd hyn. Yn ôl y gyfraith, mae’n rhaid i bob CHTh gyflogi Prif Weithredwr / Swyddog Monitro a Phrif Swyddog Cyllid.
- Prif Weithredwr – yn cynorthwyo a chynghori’r CHTh, gan sicrhau bod strategaeth y CHTh yn gweithredu’n effeithiol, yn cydymffurfio hefo dyletswyddau statudol, a chynnal safonau ymddygiad uchel. Y Prif Weithredwr hefyd ydy’r ‘Pennaeth Gwasanaeth Cyflogedig’ a’u rôl ydy penderfynu faint o adnoddau sy’n angenrheidiol a faint o staff sydd eu hangen, er mwyn rheoli a chyflawni blaenoriaethau’r CHTh.
- Prif Swyddog Cyllid – yn rheoli’r cyfrifoldebau ariannol ac yn sicrhau defnydd effeithlon o adnoddau.