RÔL COMISIYNYDD YR HEDDLU A THROSEDDU

Beth mae eich Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu yn ei wneud i chi?

Cliciwch ar y ddelwedd i'w chwyddo ac i ddysgu mwy

Beth mae eich Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu yn ei wneud i chi

Cafodd Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu eu hethol am yr eildro ar 5 Mai 2016 mewn 40 o ardaloedd heddlu ledled Cymru a Lloegr. Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu yn cynrychioli pob ardal heddlu, heblaw Manceinion Fwyaf a Llundain Fwyaf, gyda’r Maer yno yn ysgwyddo cyfrifoldebau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu.

Rôl Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu yw bod yn llais i'r bobl a dwyn yr heddlu i gyfrif. Maent yn gyfrifol am bob agwedd ar blismona.

Nod Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu yw lleihau troseddau a darparu gwasanaeth heddlu effeithiol ac effeithlon yn eu hardal heddlu.

Mae Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu wedi cael eu hethol gan y cyhoedd i ddwyn Prif Gwnstabliaid a'r heddlu i gyfrif, gan wneud yr heddlu, i bob perpas, yn atebol i'r cymunedau y maent yn eu gwasanaethu.

Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu yn sicrhau bod anghenion cymunedol yn cael eu diwallu mewn ffordd sydd mor effeithiol â phosibl, ac maent yn gwella cydberthnasau lleol drwy feithrin hyder ac adfer ymddiriedaeth. Maent yn gweithio mewn partneriaeth ar draws amrywiaeth o asiantaethau ar lefel leol a chenedlaethol er mwyn sicrhau bod dull gweithredu unedig o atal a lleihau troseddau.

O dan delerau Deddf Diwygio'r Heddlu a Chyfrifoldeb Cymdeithasol 2011, mae'n rhaid i Gomisiynwyr yr Heddlu a Throseddu wneud y canlynol:

  • sicrhau heddlu effeithlon ac effeithiol ar gyfer eu hardal;
  • penodi Prif Gwnstabl, ei ddwyn i gyfrif am redeg yr heddlu ac, os bydd angen, ei ddiswyddo;
  • pennu amcanion yr heddlu a throseddu ar gyfer eu hardal drwy gynllun yr heddlu a throseddu;
  • gosod cyllideb yr heddlu a phennu'r praesept;
  • cyfrannu at alluoedd plismona cenedlaethol a rhyngwladol a bennir gan yr Ysgrifennydd Cartref;
  • dod â phartneriaid diogelwch cymunedol a chyfiawnder troseddol ynghyd i sicrhau bod blaenoriaethau lleol yn gyson.

Mae gwybodaeth fanylach am bwerau a chyfrifoldebau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu hefyd ar gael ar wefan y Swyddfa Gartref.

Cyflwynodd Deddf Plismona a Throseddu 2017 gyfleoedd i Gomisiynwyr yr Heddlu a Throseddu gymryd cyfrifoldeb am drefniadau llywodraethu tân ac achub. O dan y ddeddfwriaeth, gall Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu ymuno â'u Hawdurdod Tân ac Achub lleol. Fel arall, gall Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu ymgynghori â'r cyhoedd a chyflwyno achos busnes i'r Ysgrifennydd Cartref yn gofyn am gael disodli'r Awdurdod Tân ac Achub yn eu hardal. Mae'r opsiwn hwn yn creu Comisiynydd yr Heddlu, Tân a Throseddu yn ffurfiol.

Mae Comisiynwyr yr Heddlu, Tân a Throseddu yn gyfrifol am y canlynol:

  • rhoi trefniadau ar waith i ddarparu gwasanaeth tân ac achub effeithlon ac effeithiol;
  • pennu amcanion tân ac achub ar gyfer eu hardal drwy lunio cynllun tân ac achub;
  • penodi Prif Swyddog Tân, ei ddwyn i gyfrif er mwyn cyflawni'r amcanion ac, os bydd angen, ei ddiswyddo;
  • gosod cyllideb y gwasanaeth a phennu'r praesept.