CYSWLLT

The Association of Police and Crime Commissioners
Lower Ground
5-8 The Sanctuary
Westminster
London SW1P 3JS

Rhif y Cwmni: 05214716

Ffôn:  020 7222 4296
Ffacs: 020 7222 4157

E-bost:  enquiries@apccs.police.uk

Twitter:  @AssocPCCs

Ar gyfer ymholiadau'r wasg, cysylltwch â:

media@apccs.police.uk

Ffôn: 07710 716659 

Yr APCC yw'r corff aelodaeth cenedlaethol ar gyfer Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu, a chyrff plismona lleol eraill ledled Cymru a Lloegr. Byddwn yn helpu Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu i ddarparu arweinyddiaeth genedlaethol ac ysgogi newid yn y dirwedd blismona a chyfiawnder troseddol.

Ni allwn ymateb i'ch e-bost os bydd yn ymwneud â'r canlynol:

  • Rhoi gwybod am drosedd:I roi gwybod am drosedd, cysylltwch â'ch heddlu lleol, neu ffoniwch 101 os nad oes angen ymateb brys arnoch. Dylech ffonio 999 bob amser mewn argyfwng.
  • Awgrymiadau neu gwynion am y ffordd y mae eich ardal leol yn cael ei phlismona:I gyflwyno awgrym neu gŵyn am y ffordd y mae eich ardal leol yn cael ei phlismona, cysylltwch â'ch Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu/corff llywodraethu'r heddlu lleol. Gallwch ddod o hyd i'ch Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu lleol drwy fynd i www.apccs.police.uk/find-your-pcc/
  • Cwynion sy'n ymwneud â swyddogion neu staff:Os hoffech wneud cwyn naill ai am swyddogion yr heddlu neu staff sy'n gweithio i heddlu, yna ewch i wefan Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu i gael rhagor o wybodaeth www.policeconduct.gov.uk/
  • Cwynion am Gomisiynwyr yr Heddlu a Throseddu a chyrff llywodraethu'r heddlu eraill:I wneud hyn, cysylltwch â'r Panel Heddlu a Throseddu ar gyfer eich ardal. Bydd eich cyngor lleol yn darparu'r wybodaeth hon.

Os gallwn ymateb i'ch ymholiad fel arall, byddwn yn gwneud pob ymdrech i ymateb i chi o fewn 20 diwrnod gwaith.

Mae'r APCC yn sefydliad tryloyw ac yn cydymffurfio â'r Rheoliadau Diogelu Data newydd.

Ceir rhagor o wybodaeth am y math o ddata personol rydym yn eu cadw, ein diben a'r sail gyfreithiol dros wneud hynny a phwy rydym yn rhannu gwybodaeth bersonol â nhw yn ein datganiad preifatrwydd.

Mae'r Rheoliadau Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR) yn rhoi'r hawl i chi wybod beth sy'n digwydd i'ch data personol ac mae gennych yr hawl i wrthod caniatáu i ni brosesu eich gwybodaeth bersonol. Mae gwybodaeth am y ffordd i wneud hyn wedi'i chynnwys yn ein datganiad preifatrwydd.

 

Share